Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Rhagfyr 2022
Amser:
09.30 -
11.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13079
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Peter Fox AS (yn lle Natasha Asghar AS) John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Ben Lloyd, WCVA Naomi Williams, Public Affairs Cymru Gemma Roberts, Sefydliad Prydeinig y Galon |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Lisa Hatcher (Swyddog) Aled Elwyn Jones (Swyddog) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
1.2 Anfonodd Natasha Asghar ei hymddiheuriadau, roedd Peter Fox yn bresennol yn ei lle.
2 Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Trafododd y Pwyllgor lobïo gyda swyddogion Materion Cyhoeddus Cymru.
3 Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Trafododd y Pwyllgor lobïo gyda Phennaeth Polisi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn:
4.1 Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5 Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papurau a chytunwyd ar fân newidiadau i'r rheolau ar Grwpiau Trawsbleidiol.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater o isafswm nifer yr Aelodau ym mhob Grŵp Trawsbleidiol wrth baratoi ar gyfer y Seithfed Senedd.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r papurau eto yn y cyfarfod nesaf, gan fod dau Aelod wedi gadael y cyfarfod, felly nid oedd cworwm.
7 Papur i’w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.